Wefare Miners Hall Archive Picture

Rôl y Neuadd Les

Rôl y Neuadd Les yn y Gorffennol a'r Presennol.

Agorwyd y Neuadd Les yn swyddogol i gymuned lofaol Ystradgynlais ar Orffennaf 7fed 1934.

Mae mynediad a chyfranogiad wedi bod yn rhan o ddatganiad cenhadaeth y Lles erioed a'i nod yw gwarchod, datblygu a chyfoethogi diwylliant ein cymuned. Adeiladwyd y Lles gyda cheiniogau glowyr i ddarparu mynediad i'r celfyddydau i bawb, ethos yr ydym yn dal i ymdrechu i'w gyflawni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae'r Lles yn rhan annatod o fywyd Ystradgynlais gyda sioeau theatr byw, dangosiadau sinema, gweithgareddau dysgu a digwyddiadau cymunedol. Rydym yn cynnal priodasau, penblwyddi ac angladdau ac unrhyw beth arall sy'n rhan o fywyd y gymuned. Mae'n lle i ddod â phobl ynghyd a chefnogi'r gymuned.

cyWelsh